#

Y Pwyllgor Deisebau | 9 Hydref 2017
 Petitions Committee | 9 October 2017
 
 
 ,Deiseb: Cefnogwch y Llwybr Du o ran Ffordd Liniaru’r M4 
 
  

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-838

Teitl y ddeiseb: Cefnogwch y Llwybr Du o ran Ffordd Liniaru’r M4

Testun y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau â’i chynlluniau i adeiladu Ffordd Liniaru’r M4 ar hyd y Llwybr Du arfaethedig, ac yn dilyn y cyhoeddiad y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno dadl ar gynlluniau’r M4 yn ddiweddarach eleni, rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i gefnogi’r prosiect.

Mae angen di-os am draffordd newydd o amgylch Casnewydd, gyda’r tagfeydd o gwmpas Twneli Brynglas yn cael effaith negyddol ar fusnesau ac ar bobl o bob rhan o dde Cymru. Cyhoeddwyd y bwriad cyntaf i gael ffordd liniaru ym 1991, sef bron i 30 mlynedd yn ôl. Er nad yw’r methiant i weithredu am dros dri degawd yn unig ar fai, credwn nad yw hyn wedi bod o gymorth i les economaidd y genhedlaeth bresennol, ac mae wedi cyfrannu at:

§    Fod y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru dros 3 y cant yn is ar gyfartaledd na chyfradd gyflogaeth y DU ers canol y 1990au.

§    Fod y Gwerth Ychwanegol Crynswth y pen yn gyson yn is na 75 y cant o gyfartaledd y DU ers diwedd y 1990au, gyda’r ffigurau diweddaraf yn dangos mai Gwerth Ychwanegol Crynswth Caerdydd y pen yw’r isaf o blith pedair prifddinas y DU.

Canfu dadansoddiad Llywodraeth Cymru ers mis Mawrth 2016 y byddai ffordd M4 newydd yn ardal Casnewydd yn gwella cysylltedd yn Ne Cymru ac â gweddill y DU, a fydd yn:

§    Lleihau amseroedd teithio, gan ddod â manteision penodol i gwmnïau logisteg a ‘gweithrediadau ond mewn pryd’, sydd ar hyn o bryd yn wynebu tarfu rheolaidd a chostau cysylltiedig.

 

§    Arbed costau cludiant yr amcangyfrifir eu bod yn £34 miliwn y flwyddyn i fusnesau de Cymru.

§    Cynyddu mynediad at gyflogaeth i drigolion ac yn ehangu maint y gweithlu hygyrch i fusnesau.

§    Cynyddu Gwerth Ychwanegol Crynswth de Cymru o £39 miliwn y flwyddyn drwy’r cynnydd o ran cynhyrchiant.

§    Creu mynediad at safleoedd cyflogaeth newydd yn ardal Casnewydd, gyda photensial ar gyfer 15,000 o swyddi, a gwella mynediad at safleoedd sy’n gyfagos i’r M4 bresennol, a gaiff ei rwystro yn sgîl tagfeydd traffig rheolaidd.

§    Gwella’r canfyddiad o Gymru ar gyfer ymwelwyr, ac fel lleoliad ar gyfer buddsoddi.

Newidiwch y sefyllfa fel y bu ers 30 mlynedd, a chefnogwch gynigion y llywodraeth o ran y Llwybr Du ar gyfer Ffordd Liniaru’r M4, fel y gallwn wella llesiant economaidd cenedlaethau’r dyfodol ar draws De Cymru.                                                                                   

 

Y cefndir

Llywodraeth Cymru yw'r awdurdod priffyrdd ar gyfer rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd Cymru ac mae'n gyfrifol am gynnal a chadw a gwella'r rhwydwaith, gan gynnwys yr M4. Trafodwyd cynigion i gynyddu lle ar yr M4 o amgylch Casnewydd ers dechrau'r 1990au pan nododd Llywodraeth y DU lwybr a ffefrir, yn gyffredinol debyg i'r cynigion presennol. Er y barnwyd ei fod yn anfforddiadwy yn 2009, adfywiwyd y prosiect gan gytundeb yn 2013 rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar bwerau benthyg.

Coridor yr M4 o amgylch cynllun Casnewydd

Yn 2014, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Coridor yr M4 o Amgylch Casnewydd – Y Cynllun gan nodi ei llwybr a ffefrir. Yn hyn o beth, nododd Llywodraeth Cymru gynlluniau i adeiladu rhan newydd o'r draffordd, sef y 'Llwybr Du' neu'r 'llwybr a ffefrir'.

Yn ogystal â chreu rhan newydd o'r draffordd – y llwybr du – cynigiodd Llywodraeth Cymru ystod o fesurau ategol, gan gynnwys:

§    Ailddosbarthu'r M4 bresennol rhwng Magwyr a Chas-bach;

§    Cysylltiadau'r M4/M48/B4245; a

§    Darparu seilwaith addas ar gyfer beicio a cherdded.

Ffordd liniaru'r M4 fyddai prosiect seilwaith mwyaf Llywodraeth Cymru hyd yn hyn.

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn mai ei chynigion o ran y Llwybr Du a'r mesurau ategol:

yw'r ateb cynaliadwy, hirdymor i’r problemau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd presennol sy’n gysylltiedig â’r ffordd hon [a rhan hanfodol o’i] gweledigaeth am system drafnidiaeth integredig effeithiol yn Ne Cymru [yn ogystal â phrosiectau eraill megis Metro De Cymru].

Ym mis Mawrth 2016, cafodd nifer sylweddol o ddogfennau eu cyhoeddi, gan nodi cam allweddol yn y broses o gynllunio a chyflawni. Hefyd, cafodd deg o arddangosfeydd cyhoeddus eu cyhoeddi, lle y gall y cyhoedd weld gorchmynion drafft, gwybodaeth amgylcheddol ac adroddiadau a deunyddiau cysylltiedig eraill. Mae erthygl flaenorol gan y Gwasanaeth Ymchwil yn cynnwys rhagor o wybodaeth am yr adroddiadau hyn.

Yn dilyn yr arddangosfeydd cyhoeddus, ym mis Mehefin 2016, cyhoeddwyd y canlynol gan Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith ar y pryd, yn y Cyfarfod Llawn:

Mae'r holl ymatebion wedi eu hadolygu’n ofalus. Mae'n rhaid imi ystyried materion pwysig yn ofalus cyn gwneud penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid bwrw ymlaen â'r gwaith adeiladu...Rwyf felly wedi penderfynu y dylid cynnal ymchwiliad lleol cyhoeddus. Bydd arolygydd annibynnol yn adolygu'r angen am y cynllun ac yn ystyried yr holl ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Bydd yn clywed tystiolaeth ac yn archwilio'r arbenigwyr technegol yn ogystal â chlywed gan gefnogwyr a gwrthwynebwyr...fel sail i benderfyniad terfynol ynghylch pa un a ddylid bwrw ymlaen i adeiladu.

Ymchwiliad lleol cyhoeddus

Disgwyliwyd i'r ymchwiliad cyhoeddus lleol ddechrau yn hydref 2016 gyda Llywodraeth Cymru yn rhagweld, pe bai'r prosiect yn mynd rhagddo, y byddai'r rhan newydd o'r draffordd yn cael ei chwblhau erbyn diwedd 2021 ac y byddai'r gwaith o ailddosbarthu'r draffordd bresennol yn cael ei gwblhau erbyn diwedd 2022.

Gan ragweld yr ymchwiliad, nododd Llywodraeth Cymru ei datganiad achos ym mis Awst 2016. Mae Rhan 1 (PDF 2.23MB) o'i hachos yn nodi trosolwg a chyfiawnhad o'r cynllun. Mae Rhannau 2 a 3 (PDF 2.35MB) yn nodi crynodeb o'r gwrthwynebiadau a gafwyd ac amlinelliad o ymateb Llywodraeth Cymru.

Ym mis Hydref 2016, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet fod yr ymchwiliad wedi'i ohirio oherwydd yr angen i gwblhau'r gwaith modelu a rhagamcanu traffig diwygiedig.  Cafwyd diweddariad arall ym mis Rhagfyr 2016, lle dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod wedi 'edrych o’r newydd' ar y cynigion ar gyfer y ffordd liniaru yn sgil y data twf traffig diwygiedig a chynigion diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer Metro De Cymru, ynghyd â dyletswyddau sy'n ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod hefyd wedi edrych o'r newydd ar lwybrau amgen gan gynnwys y ‘Llwybr Glas y bu cymaint sôn amdano' (ceir rhagor o wybodaeth yn nes ymlaen yn y papur briffio hwn) ond roedd yn credu mai 'Prosiect yr M4 yw’r ateb cynaliadwy tymor hir o hyd'.

Dechreuodd yr ymchwiliad ar 28 Chwefror 2017 gydag archwilydd annibynnol wedi'i benodi i ystyried y dystiolaeth mewn ffordd dryloyw, deg a diduedd. Ar ôl i'r ymchwiliad ddod i ben, caiff adroddiad ei gyflwyno i Weinidogion Cymru ar ganfyddiadau ac argymhellion yr archwilydd. Yna, bydd Gweinidogion Cymru yn trafod yr adroddiad hwn i benderfynu a ddylai'r cynllun fynd rhagddo gydag addasiadau neu hebddynt.  Nid yw adroddiad yr archwilydd yn rhwymo Gweinidogion Cymru.

Daeth yr ymchwiliad i ben ym mis Ebrill 2018, gyda'r holl ddogfennau a gwybodaeth gysylltiedig ar gael i'w gweld ar-lein.

Cefnogaeth a gwrthwynebiadau

Mae'r cynigion ar gyfer yr M4 wedi cyrraedd y penawdau'n rheolaidd gyda nifer o wrthwynebwyr a chefnogwyr. Pwysleisiwyd hyn yn sylwadau agoriadol (PDF 205KB) yr archwilydd i'r ymchwiliad a oedd yn crynhoi'r prif resymau dros gefnogaeth a gwrthwynebiadau i'r 'Llwybr Du' arfaethedig.

Dywedodd yr archwilydd bryd hynny y cyflwynwyd oddeutu 200 o ddarnau unigryw o ohebiaeth gan unigolion, cwmnïau a sefydliadau (yn bennaf ar draws De Cymru) sy'n mynegi cefnogaeth yn amlwg. Roedd cefnogwyr y cynllun arfaethedig, fel y'i crynhoir gan yr archwilydd yn ei sylwadau agoriadol, yn credu y byddai'n gwneud y canlynol:

§    Adfywio dinas Casnewydd;

§    Gwella ansawdd aer;

§    Gwella'r economi leol a chenedlaethol;

§    Cael gwared ar rwystrau i fuddsoddi yn yr ardal;

§    Gwella mynediad i Ddociau Casnewydd ac ardaloedd diwydiannol;

§    Cael gwared ar gyffyrdd anfoddhaol; a

§    Chynnig llwybr strategol modern o ansawdd uchel.

Hefyd, nododd yr archwilydd fod tua 340 o wrthwynebiadau unigryw. Yn ei sylwadau agoriadol, crynhodd yr archwilydd y prif themâu sydd y tu ôl i'r gwrthwynebiadau. Roedd gwrthwynebwyr o'r farn na ellir cyfiawnhau'r cynllun ar sail:

§    Gwerth am arian;

§    Llygredd aer a sŵn presennol;

§    Ei effeithiau ar dirwedd hanesyddol;

§    Ei effaith ar lefelau amgylcheddol gyfoethog a sefydledig Gwent ac ar fywyd gwyllt;

§    Ei effaith ar safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig ac ardaloedd cadwraeth arbennig dynodedig;

§    Potensial i ddatblygu dewisiadau amgen a fyddai'n foddhaol o ran trafnidiaeth ffyrdd sy'n llai costus a niweidiol i'r amgylchedd neu i gymunedau lleol; ac

§    Anghydnawsedd â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Ym mis Rhagfyr 2017, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch gwrthwynebiadau a wnaed gan Associated British Ports (ABP) ynglŷn â Dociau Casnewydd. Amlinellodd y datganiad y canlynol:

fod Llywodraeth Cymru ac A[B]P, drwy gydweithio, wedi datblygu gwaith galluogi manwl i integreiddio Dociau Casnewydd gyda Phrosiect yr M4...[mae'r gwaith yn golygu y] rhagwelir bellach mai dyddiad agor y rhan newydd o'r draffordd fydd hydref 2023, er ein bod yn ystyried agor rhannau ohoni bob yn dipyn yn 2022.

Cytunodd yr awdurdod lleol, Cyngor Dinas Casnewydd, ar ei sefyllfa yng Nghyfarfod Llawn y Cyngor ym mis Tachwedd 2017. Mae'r Cyngor:

accepts the current Public Inquiry as the legitimate forum for investigating outstanding issues regarding the proposals for an M4 Relief Road.  Council has previously expressed support for the M4 Relief Road as a way of easing traffic congestion in and around Newport and trusts that the Public Inquiry will reach a balanced conclusion taking into account transport, environment, public and business concerns in Newport and South East Wales. Council calls on the Welsh Government to make a decision on the project and its funding as soon as possible after the current process is concluded.

Ym mis Medi 2018, cyhoeddodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru adroddiad o'r enw ‘Trafnidiaeth sy’n Gymwys ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol' gan gynnig dewis amgen i 'ddatrys tagfeydd o gwmpas Casnewydd' drwy fuddsoddi'r:

£1.4 biliwn a glustnodwyd ar hyn o bryd ar gyfer Llwybr Du yr M4...mewn trafnidiaeth gyhoeddus, teithio llesol a sicrhau cyflawni pob cam o Fetro De Cymru.

Opsiynau amgen

Cynigiwyd nifer o ddewisiadau amgen o'r blaen yn lle opsiwn y 'Llwybr Du' a ffefrir gan Lywodraeth Cymru wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer coridor yr M4 o gwmpas Casnewydd.  Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar gynllun drafftddiwedd 2013 a oedd yn ystyried dau 'ddewis amgen rhesymol', sef y 'Llwybr Coch' (ffordd ddeuol i'r De o Gasnewydd) a 'Llwybr Porffor' (traffordd ar hyd aliniad amgen i'r De o Gasnewydd'.

Ym mis Gorffennaf 2014, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru werthusiad o ddewisiadau amgen a ystyriwyd yn ystod y broses ymgynghori (PDF 2.39MB). Roedd hyn hefyd yn ystyried 'Llwybr Glas' amgen a fyddai'n defnyddio cyfuniad o ffordd ddosbarthu ddeheuol Casnewydd yr A48 a'r hen ffordd gwaith dur ar ochr ddwyreiniol Casnewydd i greu ffordd ddeuol newydd.

Cynigiwyd y 'Llwybr Glas' gan y Sefydliad Materion Cymreiga'r Athro Stuart Cole mewn Adroddiad Llwybr Glas (PDF 814KB) a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2013. Mae cefnogwyr yn dadlau y byddai hyn yn rhatach ac yn gyflymach i'w adeiladu na'r ffordd liniaru.

Fodd bynnag, roedd arfarniad Llywodraeth Cymru 2014 yn awgrymu na fyddai'r 'Llwybr Glas' yn cyflawni amcanion y cynllun, a byddai ei hun yn gofyn buddsoddiad sylweddol gyda manteision annigonol.

Cyhoeddwyd 'Arfarniad o Gynigion Llwybr Glas Arall y Gwrthwynebwyr' gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2016, yn sgil y gwaith modelu traffig diwygiedig a oedd yn ofynnol fel yr amlinellwyd yn gynharach yn y papur briffio hwn. Daeth yr arfarniad hwn i'r casgliad a ganlyn:

The Blue Route would not address the identified transport related problems as well as the M4 Corridor around Newport Scheme… the Welsh Government is not promoting the Blue Route, which has been suggested by objectors. However, the Blue Route and the findings of this appraisal will be considered as part of the Public Local Inquiry into the Welsh Government’s proposed M4 Corridor around Newport Scheme.

Roedd datganiad agoriadol (PDF, 356KB) Llywodraeth Cymru i'r ymchwiliad lleol cyhoeddus yn amlinellu bod Llywodraeth Cymru wedi cael manylion am 22 o lwybrau amgen gan wrthwynebwyr i'r opsiwn a ffefrir yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus. Trefnwyd i'r manylion am ddewisiadau amgen y 22 o wrthwynebwyr hyn (PDF, 136KB) fod ar gael fel rhan o'r ymchwiliad. Ym mis Mawrth 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 'Adroddiad Dewisiadau Amgen a Awgrymwyd gan y Gwrthwynebwyr' (PDF, 56.1MB) a oedd yn ystyried pob un o'r dewisiadau amgen hyn. Roedd yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud hyn a chyflwyno'r adroddiad i'r archwilydd fel rhan o'r ymchwiliad.

 

Camau Gweithredu Llywodraeth Cymru

Yn ei lythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn tynnu sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn disgwyl:

the inspector’s report, which, once received, will be given due consideration before the statutory decision making process is concluded.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn tynnu sylw at y faith y caiff dadl ei chynnal yn y Cyfarfod Llawn cyn i Weinidogion Cymru wneud penderfyniad terfynol. Amlinellwyd hyn hefyd mewn datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ym mis Ebrill 2018 a gyhoeddodd fod yr ymchwiliad lleol cyhoeddus wedi dod i ben. Amlinellodd y datganiad y canlynol ar ôl cael adroddiad yr archwilydd:

…rhaid i Weinidogion Cymru gwblhau'r broses statudol Bydd y camau  yma yn cael eu cyhoeddi, ynghyd ag adroddiad yr Arolygwyr i bawb eu darllen.

I gydnabod pwysigrwydd y mater hwn i Gymru gyfan, rydym yn ymrwymedig i ddadl o fewn amser y Llywodraeth yn y Senedd cyn bod Gweinidogion Cymru yn cytuno ar gontractau adeiladu.

 

Camau Gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae ffordd liniaru'r M4 wedi'i thrafod ym mis Mehefin 2018 a mis Gorffennaf 2018gan Bwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau y Cynulliad fel rhan o'i ymchwiliad i gyflwr y ffyrdd yng Nghymru.

Cynhaliwyd nifer o ddadleuon hefyd ar goridor yr M4 o gwmpas Casnewydd yn y Cyfarfod Llawn. Cynhaliwyd y ddadl ddiweddaraf ym mis Chwefror 2018 pan gyflwynodd Plaid Cymru ddadl ar ffordd liniaru arfaethedig yr M4. Cyflwynwyd cynnig yn enw Rhun ap Iorwerth AC:

na ddylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i ariannu ffordd liniaru arfaethedig yr M4 heb bleidlais ystyrlon ar gynnig o sylwedd yn y Cynulliad yn dilyn casgliad yr ymchwiliad cyhoeddus presennol.

Gwrthodwyd y cynnig: Fodd bynnag, cytunwyd bod diwygiad a gyflwynwyd yn enw Julie James AC:

yn cydnabod bod ymchwiliad cyhoeddus gan arolygwyr annibynnol i brosiect coridor yr M4 o amgylch Casnewydd yn parhau i fynd rhagddo ac ni ddylid gwneud unrhyw beth i amharu ar ganlyniad yr ymchwiliad, adroddiad yr archwilwyr neu’r broses statudol.

Fodd bynnag, dywedwyd ers hynny y bydd y Cynulliad yn cael pleidlais ar y mater er na chyhoeddwyd rhagor o fanylion ar ffurf y bleidlais nac a fydd yn rhwymo Gweinidogion Cymru.

Ar adeg ysgrifennu'r papur briffio hwn, nid yw dyddiad ar gyfer dadl a phleidlais y Cyfarfod Llawn wedi'i gyhoeddi eto. Ar 13 Medi 2018, cyflwynodd Adam Price AC gwestiwn yn gofyn i'r Prif Weinidog wneud datganiad ar y cynllun arfaethedig ar gyfer ffordd liniaru'r M4. Dywedodd ymateb y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru yn:

disgwyl cael adroddiad yr Ymchwiliad Cyhoeddus cyn hir. Bydd yr adroddiad hwnnw, a’r penderfyniad ar y Gorchmynion Statudol, yn destun trafodaeth a phleidlais yn y siambr hon cyn gwneud penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid parhau â’r gwaith adeiladu.